Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cynllun Prynu Beic

Ydych chi’n ystyried ffordd iachach, fwy cynaliadwy o deithio?

Os ydych chi, yna efallai y bydd cynllun beicio i’r gwaith Prifysgol Bangor yr union beth yr ydych yn chwilio amdano! Mae’n bleser gennym gyhoeddi y bydd cyfle i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Beicio i’r Gwaith, a gynhelir ar y cyd â P&MM Cyf.

Beth yw cynllun Beicio i’r Gwaith?
Mae’r cynllun beicio i’r gwaith yn gynllun di-dreth nad yw taliadau Yswiriant Gwladol yn cael eu tynnu ohono. Fe’i sefydlwyd gan y Llywodraeth a’r Adran Drafnidiaeth i helpu i hyrwyddo teithiau iachach i’r gwaith a lleihau llygredd a thagfeydd traffig.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?
Cewch gyfle i logi beic gan Brifysgol Bangor, sy’n eich galluogi i ddewis beic ac offer beicio hyd at werth o rhwng £100 a £1,000. Rhaid i’r nwyddau a ddewisir gynnwys beic neu feic ac offer diogelwch. Nid yw’n bosibl dewis offer diogelwch yn unig. Nid ydych yn talu treth na chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar werth y cyflog yr ydych yn ei aberthu ar gyfer y cytundeb hwn. Er enghraifft, os dewiswch feic ac offer diogelwch gwerth £400 a’ch bod yn talu treth ar gyfradd is, gallech arbed hyd at £128.00* ar gyfanswm y gost. Os ydych chi’n talu treth ar gyfradd uwch, gallech arbed hyd at £168.00*.

Sut i gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais:
Bydd yn bosibl prynu yn ystod cyfnodau penodol o’r flwyddyn. Am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am y cynllun cliciwch yma.

*mae’r union arbedion yn dibynnu ar eich cyfrifiadau treth ac yswiriant gwladol unigol.

 

Site footer