Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Croeso

Bwriad ‘Actif-Bangor’ yw bod yn wefan yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar chwaraeon, digwyddiadau hamdden a chymdeithasol a grwpiau staff yn y Brifysgol.

Rhagwelir y bydd safle ‘Actif’ yn datblygu’n wefan a fydd yn rhoi cysylltiadau i bob math o grwpiau ffurfiol ac anffurfiol a gweithgareddau yn y Brifysgol  - trwy hyn gallwn i gyd ddod i wybod tipyn mwy am yr hyn sy’n mynd ymlaen a sut i gymryd rhan ein hunain.   

Hefyd, dylai safle ‘Actif’ yn y pen draw fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ar weithgareddau hamdden eraill nad ydynt wedi eu hanelu’n benodol at grwpiau, fel dangos llwybrau cerdded yn yr ardal, a deunydd ‘lles’ tebyg.

Newydd gael ei dechrau mae’r wefan ond, os oes gennych unrhyw wybodaeth neu gysylltiadau defnyddiol i’w hychwanegu, anfonwch e-bost atom os gwelwch yn dda.

Site footer