Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cerdded

Mae'r rhan fwyaf o flynyddoedd yn gweld grŵp o staff y Brifysgol yn cymryd taith gerdded noddedig i fyny'r Wyddfa er mwyn codi arian ar gyfer Tŷ Gobaith, os hoffech chi weld rhai lluniau o deithiau cerdded blaenorol cliciwch ar y cysylltiadau:

Taith 2012 i fyny'r Wyddfa

Taith 2011 i fyny'r Wyddfa

Taith 2010 & 2009 i fyny'r Wyddfa

 

Wrth gerdded y camau dyddiol a argymhellir, 10,000 cam y diwrnod (o gwmpas 5 milltir), rydych yn gallu cael calon iach a lleihau’r braster ar eich corff. Mae cerdded hefyd yn gallu cryfhau’ch cyhyrau, rhoi hwb i’ch metabolaeth, lleddfu straen, codi lefelau egni a’ch helpu i gysgu’n well. Y peth gwych am gerdded yw ei bod yn hawdd ei ffitio mewn i’ch amserlen ddyddiol ac mae am ddim, felly pam nad ewch chi allan a mwynhau’r awyr iach a’r golygfeydd prydferth sydd i’w gweld yn ein hardal?

Ar ein tudalen we Cerdded Amser Cinio ceir rhai llwybrau o wahanol fannau ar safleoedd Bangor a Porthaethwy a hefyd rhai llwybrau hanesyddol i chi ddod i adnabod yr ardal. Yn y dyfodol rydym yn gobeithio cynnig llwybrau o’n holl safleoedd ni  i staff  eu mwynhau.

I gael amrywiaeth o lwybrau o le rydych yn byw neu gampws Wrecsam ewch i’r tudalen we Cerdded Amser Hamdden. Mae yna ddewis o lwybrau o fynyddoedd Eryri, Penrhyn Llŷn, Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Chyngor Conwy.

 

Site footer